Prosiect Penlan

Grant Amgylchedd Cymru 2011

Llwyddodd y prosiect hwn, sy’n cael ei reoli gan Gymdeithas Gweision y Neidr Prydain ac a gwblhawyd mewn partneriaeth ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro (perchnogion y safle) a Chyngor Cefn Gwlad Cymru bryd hynny (Cyfoeth Naturiol Cymru bellach), i wella’r cynefin a fodolai eisoes ac i greu cynefin newydd ar gyfer Mursen y De. Hefyd, llwyddodd i wella agweddau eraill ar yr amgylchedd presennol ym Mhenlan ar Fynyddoedd y Preseli yn Sir Benfro. Ar ddechrau’r prosiect, asesodd rheolwr safle Penlan ac Uwch Swyddog Cadwraeth Cyngor Cefn Gwlad Cymru, ynghyd â chofnodwr lleol Cymdeithas Gweision y Neidr Prydain ac arbenigwr ar Fursen y De, addasrwydd amodau’r tir ar gyfer creu cynefin i Fursen y De. Lluniwyd cynllun i greu ffrydiau a goferydd o ddwy ffynnon a oedd ar y safle eisoes.

Defnyddiwyd peiriant cloddio mecanyddol am ddeuddydd. Cafodd hwn wared ar lystyfiant bras a chloddiodd nentydd bas yn arwain o’r ffynhonnau naturiol a ganfuwyd ar y safle. Mewn rhai ardaloedd, crëwyd nentydd newydd; mewn ardaloedd eraill, cafodd y ffosydd a fodolai eisoes eu hailsiapio, gan arwain at nentydd bas y gallai da byw fynd atynt. Bydd hyn yn annog y da byw i sathru’r ymylon a chreu’r ymddangosiad anwastad a phyllog y mae Mursen y De’n ei ffafrio. Hefyd, mae sawl pwll newydd wedi cael ei gloddio i ychwanegu at y ddau a grëwyd ar y safle yn 2005. Mae’r rhain yn ffurfio cynefinoedd ychwanegol ond hefyd yn caniatáu ar gyfer glawiad trwm yn y gaeaf. Mae llystyfiant dyfrol o’r pyllau cynharach wedi dechrau ymledu i’r ardaloedd newydd gyda’u llif d?r araf a’r ardaloedd o dd?r llonydd. Ers cwblhau’r gwaith, mae merlod wedi bod yn pori’r safle fel rhan o’r gwaith rheoli cynefin parhaus.

Fel rhan o’r prosiect, mae gwirfoddolwyr Cymdeithas Gweision y Neidr Prydain wedi bod yn monitro’r safle a byddant yn parhau i wneud hynny. Mae 24 safle ar gyfer tynnu lluniau er mwyn monitro’r gorchudd o lystyfiant wedi cael eu sefydlu gan wirfoddolwr gyda’r Gymdeithas. Er nad oedd y safle’n cynnwys unrhyw Fursennod y De pan fu’r peiriant cloddio mecanyddol ar waith, mae poblogaethau wedi cael eu cofnodi gerllaw. Y gobaith yw na fydd yn rhy hir cyn y byddwn yn canfod Mursen hardd y De ar y safle hwn.

 

 

Bydd y prosiect hwn yn darparu safle arddangos arfer gorau i borwyr tir comin lleol ymweld ag ef. Gall cytundebau pori tir comin gymryd llawer iawn o amser i’w sefydlu ac mae amser yn brin i’r rhywogaeth hon yn Sir Benfro, felly bydd y safle hwn yn dangos beth sydd raid ei gyflawni ar safleoedd Mursen y De.