Adfer a Chreu Cynefin Mursen y De ar Safleoedd Niferus

Mae ein gwaith partneriaeth yn Sir Benfro gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (APCAP) er lles Mursen y De wedi parhau i ennill momentwm ac rydym yn ddiolchgar o gael cefnogaeth ariannol gan Cyfoeth Naturiol Cymru drwy gyfrwng Partneriaeth Bioamrywiaeth Sir Benfro i wneud rhagor o waith adfer cynefin hanfodol yn gynnar yn 2015. Hefyd, rydym wedi bod yn gweithio’n agos â Phartneriaeth Bioamrywiaeth Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf i ddiweddaru cynllun gweithredu rhywogaeth Mursen y De ac i sicrhau dyfodol i’r rhywogaeth hon yn Sir Benfro gobeithio.

Mae’r cynefin y mae Mursen y De’n dibynnu arno’n parhau i ddirywio’n ddifrifol yn yr ACA, yn bennaf oherwydd llai o bori traddodiadol gan wartheg / ceffylau / merlod a defaid. Hyd nes y gellir sefydlu trefn bori sy’n gallu cynnal y cynefinoedd hyn, rydym wedi gorfod gweithredu datrysiadau eraill llai cynaliadwy er mwyn sicrhau nad yw Mursen y De’n diflannu oddi ar Fynyddoedd y Preseli. Mae ymyriadau sy’n defnyddio peiriannau i addasu’r nentydd a’r llaciau’n ffisegol yn angenrheidiol er mwyn troi’r nentydd cul a dwfn / tanddaearol hyn yn ddyfrffyrdd llydan, bas ac agored.

Gwnaed gwaith yn gynnar yn 2015 i adfer darnau wedi’u targedu o nentydd ble roedd cynefinoedd addas wedi’u colli, er mwyn creu ardaloedd newydd o gynefin. Mae hyn wedi cynnwys agor nentydd, creu pyllau ac adfywio llaciau i greu d?r mwy agored drwy dynnu’r mawn a’r llystyfiant sy’n ymledu yn ei ôl o linellau’r nant. Crëwyd mwy na 1000m o gynefin llinellol ar ddau safle, a chrëwyd pwll bas a llac ar safle arall.

 

Aeth y gwaith yn ei flaen yn dda ond wedi glaw trwm yn fuan ar ôl gwneud y gwaith, canfuwyd problemau. Problemau yw’r rhain sy’n codi wrth weithio gyda dyfrffyrdd mewn ardaloedd bryniog gyda defnyddwyr tir niferus. Ar un o’r safleoedd, roedd rhaid edrych eto ar y gwaith ar ôl glaw trwm, pan gawsom sylwadau am broblemau gyda’r gwaith. Gwnaed addasiadau a newidiadau yn dilyn hyn, i leihau’r llif ac i wella mynediad. Dangosodd safle’r prosiect penodol hwn fod gan ymyriadau mecanyddol botensial i gael effaith niweidiol ar rai o fuddiannau’r partïon cysylltiedig â’r gwaith o reoli a defnyddio Mynyddoedd y Preseli. Yn y dyfodol, rydym yn gobeithio cynnal cynefin Mursen y De drwy bori priodol, ac yn gobeithio na fydd angen am ymyriad mecanyddol wedyn. Er hynny, yn y tymor byr, mae angen ymyriad mecanyddol er mwyn atal diflaniad y rhywogaeth hon.

Er ein bod wedi siarad â’r perchennog tir a sawl defnyddiwr arall cyn gwneud y gwaith, mae’r broblem hon wedi tynnu sylw at y ffaith y gallai trafod yn ehangach, ac ymgynghori â mwy o drigolion, porwyr, cerddwyr ac ati cyn dechrau, fod wedi dangos problemau gyda llif uchel a mynediad, cyn dechrau ar y prosiect. Weithiau mae’n anodd rhagweld beth fydd effeithiau posib unrhyw waith. Bydd cynnwys cymaint o ddefnyddwyr â phosib yn rhoi i ni’r wybodaeth orau ar gyfer gwaith yn y dyfodol ac yn helpu i benderfynu sut orau i ymgymryd â chynlluniau adfer cynefin gan osgoi effeithiau negyddol ar ddefnyddwyr yr ACA hefyd. Dim ond drwy weithio’n llawn ac yn agos â phawb cysylltiedig y gellir diogelu Mursen y De a’i chynefin yn y Preseli a hefyd gwarchod buddiannau holl ddefnyddwyr yr ACA.

Mawrth 2015