Cornel Pensarn

Grant Amgylchedd Cymru

Roedd y prosiect hwn yn cynnwys darn bychan o dir comin ar ymyl ogleddol Ardal Gadwraeth Arbennig y Preseli. Y nod oedd gwella mynediad ar draws yr ardal ar gyfer pobl a da byw, a hefyd gwarchod a gwella amodau’r cynefin ar gyfer y gweision y neidr prin sy’n byw yn yr ardal. Mae Cornel Pensarn yn ardal o gynefinoedd tir gwlyb gydag arwynebedd o tua 100 metr wrth 100 metr. Mae’n cynnwys cymysgedd o nentydd, corsydd, ffrydiau a phyllau. Mae sawl nant yn ymuno yma ac mae’n cynnwys llwybrau mynediad pwysig i dda byw. Mae’r cyfuniad o’r cynefinoedd tir gwlyb amrywiol hyn a’r tarfu gan anifeiliaid yn creu cyfres unigryw o amodau sy’n cefnogi’r gymuned bwysicaf o weision y neidr yn Sir Benfro. Y rhywogaeth allweddol yma yw Mursen y De, sydd i’w gweld yn rhai o nentydd a ffrydiau’r ardal. Hefyd, mae’r brif nant sy’n croesi’r safle’n ardal bwysig i’r Fursen Gynffonlas Brin Ischnura pumilio sydd wedi’i rhestru fel rhywogaeth sy’n wynebu Cryn Fygythiad ar y Rhestr Data Coch. Nid yw’r cyfuniad o rywogaeth brin a phoblogaethau cynaliadwy yn yr ardal hon i’w ganfod yn unman arall yng Nghymru. Dim ond yn New Forest yn Lloegr y mae amodau tebyg yn cael eu hefelychu.

Roedd yr ardal o dan fygythiad gan fod mynediad i’r Comin wedi mynd yn anodd ac roedd y nentydd yn wynebu risg o gael eu tagu.

Gwnaeth Cymdeithas Gweision y Neidr Prydain gais llwyddiannus am grant gan Lywodraeth Cymru drwy gyfrwng Amgylchedd Cymru, i wneud gwelliannau mynediad er mwyn gwarchod y cynefin unigryw ac i wella mynediad i gerddwyr a phorwyr i’r comin. Unwaith eto, gweithiodd Cymdeithas Gweision y Neidr Prydain mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro er mwyn cyflawni ei hamcanion. Roedd cefnogaeth a chydweithrediad y perchennog tir a phorwyr lleol yn hollbwysig hefyd er mwyn i’r prosiect sicrhau canlyniad llwyddiannus.

Roedd y prif waith yn cynnwys ehangu’r trac presennol a oedd wedi’i orlifo, a ddefnyddiwyd gan dda byw i gael mynediad i’r comin. Fe’i gwnaed oddeutu pedair troedfedd yn lletach gan ddefnyddio peiriant cloddio mecanyddol. Yna, defnyddiwyd y deunydd o’r gwaith hwn i greu bwnd ar ffurf pibell i sicrhau mynediad i bobl i’r comin. Arferai’r tir fod yn beryglus iawn yn yr ardal hon. Mae pibellau’r bwnd yn caniatáu i dd?r lifo drwodd a bydd yn dileu’r angen am waith draenio yn y dyfodol. Mantais arall y bwnd yw y bydd yn galluogi i lefelau d?r gael eu cynnal wrth y man croesi ac i fyny’r nant, hyd yn oed pan fydd cyfraddau’r llif ar eu hisaf yn ystod yr haf.

 

Yn ychwanegol at y prif waith hwn, defnyddiwyd cerrig a graean i lenwi rhai mannau ar y trac lletach ac o’i amgylch. Sicrhaodd hyn fynediad gwell fyth i dda byw a hefyd llwyddodd i greu ac ymestyn yr ardal o dd?r bas a oedd yn llifo’n araf dros waelod o lifwaddod a graean. Mae’r cyfuniad hwn o waith amrywiol wedi creu amodau delfrydol ar gyfer rhai o’n gweision y neidr prinnaf.

Yn gyffredinol, bydd y prosiect hwn yn atal y rhos gwlyb rhag sychu, hyd yn oed os bydd lefel y d?r yn gostwng, a hefyd mae wedi gwella amodau ar gyfer y rhai sy’n defnyddio’r comin. Mae’r prosiect wedi cael cefnogaeth lwyr y perchennog tir a chydweithrediad y porwyr lleol, sydd wedi gallu gweld sut mae gwella’r safle ar gyfer eu da byw wedi bod o fudd hefyd i rywogaeth bwysig o was y neidr.